Llyfr braslunio ar gyfer dyfodol Abertawe: Urban Splash yn dadlennu y ddinas ar y traeth
Cafodd llyfr braslunio newydd ei ddadlennu heddiw, un sy'n archwilio cysyniadau ar gyfer saith safle allweddol ledled Abertawe.
Wedi'i greu gan y cwmni adfywio arobryn, Urban Splash, a benodwyd yn bartner strategol i Gyngor Abertawe yn 2021, mae'r llyfr braslunio yn amlinellu gweledigaeth gychwynnol dan faner ymbarél Y Ddinas ar y Traeth.
Mae Urban Splash yn disgrifio'r cyhoeddiad fel gwahoddiad i bobl Abertawe helpu i lunio dyfodol y ddinas. Esboniodd Jonathan Falkingham, cyd-sylfaenydd Urban Splash a chyn-fyfyriwr yn Ysgol Tregŵyr, Abertawe: “Rydym wrth ein bodd yn rhannu'r weledigaeth hon â phobl Abertawe.
“Mae hwn yn wahoddiad i ymgysylltu, ac rydym yn awyddus i glywed gan bobl leol a phartneriaid posibl a all weithio gyda ni i wireddu’r weledigaeth hon. O dan faner Y Ddinas ar y Traeth, ein nod yw sbarduno sgwrs am y saith ardal benodol hyn wrth adfywio Abertawe gyfan, gan greu profiad di-dor o’r ddinas i’r traeth.”
Wrth wraidd y cynigion y mae Abertawe Ganolog, lle mae cam cyntaf y datblygiad wedi cael caniatâd cynllunio. Bydd hyn yn cynnwys canolbwynt sector cyhoeddus pum llawr, 47,964 troedfedd sgwâr, gyda lleoedd manwerthu neu fwytai ar lefel y ddaear, a swyddfeydd masnachol uwchben.
Mae Canolfan Ddinesig Abertawe yn elfen allweddol arall, ac mae'r weledigaeth yn un ar gyfer ardal Glannau'r Ddinas sy'n gosod traeth pum milltir Abertawe fel atyniad diffiniol y ddinas, atyniad a fydd yn denu ymwelwyr ac, ar yr un pryd, yn creu lle bywiog i fyw, gweithio ac ymlacio ynddo.
Yn cael ei gynnwys hefyd y mae safle Gwaith Copr yr Hafod, a'r gobaith yw y bydd yn dod yn gyrchfan ar gyfer hamdden egnïol ac yn atyniadau dan arweiniad treftadaeth i ymwelwyr. Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Mae rhaglen adfywio gwerth dros £1 biliwn yn ymagor yn Abertawe, rhaglen i drawsnewid ein dinas yn un o'r lleoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio ac astudio ynddi, ac yn un i'w mwynhau ac ymweld â hi.
“Mae llawer iawn wedi’i gyflawni eisoes, yn cynnwys agor Arena Abertawe, ailagor adeilad Theatr y Palas, a buddsoddiadau mawr yn edrychiad a naws ardaloedd megis Ffordd y Brenin a Stryd y Gwynt, ond mae cymaint mwy i ddod hefyd.
“Mae hyn yn cynnwys ein partneriaeth ag Urban Splash, a fydd yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o safleoedd yn Abertawe yn cael eu hadfywio er budd preswylwyr a busnesau lleol.
“Bydd pobl yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ynghyd â llawer o gyfleoedd i roi adborth wrth i’r cynigion hyn fynd rhagddynt.”
Mae safleoedd ychwanegol yn cynnwys St Thomas, a ragwelir fel coridor bywyd gwyllt gwyrdd gyda chartrefi ar lan yr afon; Pont Hwylio, cymuned arfordirol fodern ger canol y ddinas; Stryd Rhydychen, safle defnydd cymysg yng nghanol y ddinas; a'r Promenâd, a fydd yn cynnig fflatiau glan môr fel y darn olaf o'r weledigaeth.
Dewisodd Cyngor Abertawe Urban Splash i fod yn bartner strategol iddo oherwydd profiad 30 mlynedd y cwmni o gyflawni gwaith adfywio ledled y DU. I gloi, dywedodd Jonathan Falkingham:
“Rydym yn ein hystyried ein hunain yn rhanddeiliaid hirdymor, rhanddeiliaid sy'n blaenoriaethu hirhoedledd yn ein dyluniadau ac sy'n gweithio gyda phartneriaid rhagorol ar lawr gwlad i gyflawni rhywbeth a fydd yn sefyll prawf amser.
“Mae lleoedd yn ymwneud â phobl, felly ochr yn ochr â chynlluniau cynaliadwy, modern, rydym hefyd yn meithrin natur, diwylliant a chymuned – yr elfennau sy'n creu gwerth hirdymor. Mae'r ethos hwn yn sail i'r llyfr braslunio ar gyfer Abertawe, ac rydym yn llawn cyffro ynghylch ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu'r weledigaeth hon.”