Urban Splash yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn Abertawe
Bydd y cwmni adfywio arobryn Urban Splash yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn Abertawe yr haf hwn, gan ganiatáu i bobl leol fynegi eu barn am gynigion sydd newydd eu cyhoeddi ar gyfer rhan o uwchgynllun Ardal Ganolog Abertawe.
Bydd y digwyddiad yn dangos dyluniadau manwl ar gyfer ardal a elwir yn Bloc B, sy'n cynnwys adeilad hwb sector cyhoeddus defnydd cymysg a fydd yn cynnwys siopau, bwytai a chaffis ar y llawr gwaelod, a gofodau ar gyfer swyddfeydd masnachol ar y lloriau uwch.
Wrth siarad am y cynlluniau, dywedodd cyfarwyddwr datblygu Urban Splash, David Warburton: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned leol. Gobeithiwn ymgorffori eu hadborth i sicrhau bod y cynigion hyn ar gyfer creu canolbwynt masnachol bywiog ac iddo amwynderau rhagorol, cyfleoedd gwaith, ac ecosystem newydd ffyniannus, yn diwallu anghenion hirdymor y ddinas.
“A dim ond megis dechrau yw hyn wrth i ni ymrwymo i’r ddinas Gymreig wych hon ar gyfer yr hirdymor, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ystod o bartneriaid – gan gynnwys Milligan – wrth i ni symud ymlaen i adfywio ardaloedd eraill sy'n rhan o uwchgynllun Ardal Ganolog Abertawe. ”
Bydd Urban Splash yn arddangos y cynlluniau rhwng 13 Awst ac 15 Awst, trwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus 'galw heibio' yn hen Siop Gerddoriaeth Cranes, 9-11 Maes Dewi Sant, Abertawe, SA1 3LG, a gall trigolion lleol roi eu hadborth trwy borth ar-lein hefyd yn ystod dyddiadau'r digwyddiad ymgynghori.
Mae gan y cwmni 30 mlynedd o brofiad ym maes adfywio, ac mae'n helpu i drawsnewid cyfanswm o saith safle ledled y ddinas; aeth David yn ei flaen: “Yn ystod y tri degawd diwethaf, mae Urban Splash wedi bod yn ymrwymedig i brosesau adfywio hirdymor, gan gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni gweledigaethau cynaliadwy ar gyfer mannau segur nad ydynt yn cael gofal.
“Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar adfer adeiladau a safleoedd tir llwyd mewn modd sensitif a gofalus, ac rydym wrth ein bodd yn dod â’r arbenigedd hwnnw i Abertawe.”
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i gwmni Urban Splash gael ei benodi'n ddatblygwr a ffefrir gan Gyngor Abertawe.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Mae angen i ragor o bobl weithio a byw yng nghanol dinas Abertawe i gefnogi masnachwyr a chyflogaeth sydd eisoes yn bodoli, i greu swyddi newydd ac annog rhagor o siopau a busnesau eraill i agor yn y dyfodol.
“Bydd yr hwb sector cyhoeddus arfaethedig yn helpu i ddiwallu’r angen hwnnw oherwydd nifer y gweithwyr ychwanegol a fydd yn gwario eu harian ym mwytai, siopau, caffis a busnesau eraill canol y ddinas.
“Yn amodol ar adborth ar yr ymgynghoriad, a chael caniatâd cynllunio, byddai'r gwaith o adeiladu'r hwb yn rhan o gam nesaf y broses gwerth £1 biliwn o drawsnewid canol y ddinas, gan dilyn cynlluniau megis Arena Abertawe, adfer Theatr y Palas a datblygu swyddfeydd newydd ar gyfer tenantiaid y sector preifat sy'n mynd rhagddo yn 71/72 Ffordd y Brenin.
“Mae’r cynllun yn rhan o’n hymrwymiad i adfywio canol dinas Abertawe a chreu cyrchfan flaenllaw lle y gall pobl ymweld â hi, ei mwynhau, a gweithio, byw ac astudio ynddi.”
Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad, bydd Urban Splash yn casglu adborth lleol, cyn cyflwyno cais cynllunio Materion a Gadwyd yn Ôl i'r Cyngor ym mis Medi, gan nodi dyluniad manwl yr adeilad a'i leoliad uniongyrchol.
Gall unrhyw un sydd am roi eu hadborth neu wneud ymholiadau alw heibio i hen Siop Gerddoriaeth Cranes, 9-11 Maes Dewi Sant, Abertawe, SA1 3LG ar yr adegau a nodir isod, neu gallant ymateb i'r ymgynghoriad ar-lein trwy fynd i urbansplash.co.uk/swansea-consultation.
Dydd Mawrth 13 Awst 1pm-7pm
Dydd Mercher 14 Awst 1pm-7pm
Dydd Iau 15 Awst 9am-1pm