Urban Splash yn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer safle cyntaf yn Abertawe
Bydd cwmni adfywio arobryn Urban Splash yn symud ymlaen â datblygiad newydd yn Abertawe, wedi iddo sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer cam cyntaf uwchgynllun Ardal Ganolog Abertawe.
Bydd cwmni adfywio arobryn Urban Splash yn symud ymlaen â datblygiad newydd yn Abertawe, wedi iddo sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer cam cyntaf uwchgynllun Ardal Ganolog Abertawe.
Cymeradwywyd cynlluniau ar gyfer adeilad hwb sector cyhoeddus defnydd cymysg pum llawr, 47,964 troedfedd sgwâr, sy'n sefyll ar safle Canolfan Siopa Dewi Sant gynt, ac a ddyluniwyd gan gwmni penseiri shedkm.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys siopau, bwytai a chaffis ar y llawr daear, ynghyd â lle ar gyfer swyddfeydd ar y lloriau uwch, a fydd yn gartref i swyddfeydd ar gyfer cannoedd o weithwyr cyngor, fel yr esbonia cyfarwyddwr datblygu Urban Splash, David Warburton: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi sicrhau caniatâd cynllunio, sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer hwb masnachol newydd bywiog yn Abertawe.
“Ein gweledigaeth yw creu gofod sy'n gwasanaethu'r gymuned a'r economi leol, fel ei gilydd, gan gynnig amwynderau o ansawdd uchel, mannau gwaith dynamig, a man lle y gall pobl gysylltu a chydweithredu. Bydd yr adeilad yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi ac yn chwistrellu egni newydd i mewn i ganol y ddinas, sgan gefnogi twf Abertawe fel amgylchedd trefol ffyniannus, blaengar.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Bydd yr hwb sector cyhoeddus yn helpu i sicrhau mwy o ymwelwyr yng nghanol y ddinas, a fydd yn rhoi hwb i'n masnachwyr presennol ac yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad yn y dyfodol.
“Fodd bynnag, un nodwedd yn unig yw hon o gynllun cyffredinol ar gyfer ailddatblygu safle Canolfan Siopa Dewi Sant gynt, felly byddwn yn parhau i weithio gydag Urban Splash ar gynigion eraill ar gyfer y safle a gyhoeddir cyn gynted ag y byddant yn barod ar gyfer adborth.
“Mae ein cynlluniau ar gyfer y safle datblygu hwn yn rhan o raglen adfywio gwerth £1 biliwn sy'n mynd rhagddi yn Abertawe i sicrhau budd ar gyfer ein preswylwyr a'n busnesau. Mae hyn yn dangos maint ein hymrwymiad i greu swyddi a chyfleusterau o ansawdd uchel wrth i Abertawe gael ei thrawsnewid i fod yn un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, mwynhau ac astudio ynddi, ac i ymweld â hi.
“Ochr yn ochr â'n partneriaid yn y sector preifat ac eraill, mae'r gwaith hwn yn dwyn ffrwyth. Mae disgwyl i economi Abertawe fod y seithfed economi sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y flwyddyn nesaf, sy’n dyst i bopeth a gyflawnwyd hyd yma ac i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Cafodd Urban Splash ei benodi i fod yn bartner datblygu gan Gyngor Abertawe yn 2021. Mae gan y cwmni dros 30 mlynedd o brofiad ym maes adfywio wrth iddo helpu i drawsnewid cyfanswm o saith safle ledled y ddinas. Mae'r tri cyntaf yn cynnwys Glannau'r Ddinas, Gwaith Copr yr Hafod, a Chanol Abertawe; mae'r olaf yn gartref i'r hwb sector cyhoeddus newydd.
I gloi, dywedodd David:“Yn ystod y tri degawd diwethaf, mae Urban Splash wedi bod yn ymrwymedig i brosesau adfywio hirdymor, gan gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni gweledigaethau cynaliadwy ar gyfer mannau segur nad ydynt yn cael gofal.
“Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar adfer adeiladau a safleoedd tir llwyd mewn modd sensitif a gofalus, ac rydym wrth ein bodd yn dod â’r arbenigedd hwnnw i Abertawe.”